Psalms 108

Gweddi am help yn erbyn y gelyn

(Salm 57:7-11; 60:5-12)

Cân. Salm Dafydd.

1Dw i'n gwbl benderfynol, O Dduw.
Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti!
2Deffro, nabl a thelyn!
Dw i am ddeffro'r wawr gyda'm cân!
3Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O Arglwydd, o flaen pawb!
Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
4Mae dy gariad di'n uwch na'r nefoedd,
a dy ffyddlondeb di'n uwch na'r cymylau!
5Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
6Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni
er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
7Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:
“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,
a mesur dyffryn Swccoth.
8Fi sydd piau Gilead
a Manasse hefyd.
Effraim ydy fy helmed i,
a Jwda ydy'r deyrnwialen.
9Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.
Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,
ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!”
10Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?
Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
11Onid ti, O Dduw?
Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!
Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
12Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,
achos dydy help dynol yn dda i ddim.
13Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion –
bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!
Copyright information for CYM